Yng Nghylch Meithrin Llangeitho, credwn dylsai pob plentyn cael lle diogel, hapus, ac ysbrydoledig er mwyn cael dysgu trwy chwarae.
Rydym yn darparu addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg i blant 2–4 oed mewn amgylchedd cynnes a gofalgar lle mae chwilfrydedd yn cael ei annog, cyfeillgarwch yn blodeuo a hyder yn cynyddu.
O ddiolch i'n lleoliad hardd o fewn tir Ysgol Rhos Helyg, mae'r Cylch yn rhoi cyflwyniad gwych i blant i fywyd ysgol, gan eu helpu i deimlo'n ddiogel ac yn gyffrous pan ddaw'r amser i ddechrau yn y Dosbarth Derbyn.
Mae'r Cylch yn croesawi pawb, ac yn creu cyfleoedd anhygoel i blant a'u teuluoedd cael dysgu Cymraeg ac am Chymreictod, pe na bai chi o Gymru neu beidio.
Tîm gofalgar a phrofiadol
Amgylchedd dysgu modern tu fewn ac y tu allan
Ardal chwarae awyr agored eang ar gyfer anturiaethau ym mhob tymor
Tripiau cyffrous ac ymwelwyr arbennig drwy gydol y flwyddyn
Arolygiadau cadarnhaol gan AGC ac Estyn
Cysylltiadau cryf gydag Ysgol Rhos Helyg ar gyfer pontio esmwyth i'r ysgol
Dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ffordd hwylus a naturiol
Mae plant yn dysgu orau pan maen nhw'n archwilio, creu, chwerthin a darganfod. Mae pob dydd yng Nghylch Meithrin Llangeitho yn llawn cyfleoedd i ddatblygu iaith, hyder, annibyniaeth a chyfeillgarwch trwy chwarae a sesiynau sydd wedi'i gynllunio'n ofalus.
Y ffordd orau o ddarganfod beth sy'n gwneud ein Cylch yn arbennig yw trwy ymweld a ni.
Byddem wrth ein bodd yn eich dangos o gwmpas, ateb eich cwestiynau a helpu eich plentyn i gymryd ei gamau cyffrous cyntaf mewn addysg.
Cysylltwch â ni trwy ebostio cylchmeithrinllangeitho@gmail.com neu, ffoniwch 01974 821 615 i drefnu ymweliad neu sgwrsio â ni am sut y gallwn helpu eich plant i ddod yn ddysgwyr hapus a hyderus!